Wal Llais Plant

Ar ddechrau pwnc, bydd yr athro dosbarth yn cofnodi cwestiynau’r disgyblion ar y Wal Llais Plant. Mae’r llais disgyblion cadarn hwn yn holi beth mae’r disgyblion eisiau ei wybod a bydd y cwestiynau hyn yn arwain y dysgu yn ystod y pwnc. Yn ystod y gwersi, bydd yr athro’n cyfeirio’n ôl at y Wal Llais Plant i ddangos y modd mae cwestiynau’r disgyblion yn cael eu hystyried. 

Yn yr un modd bydd disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn cwblhau gridiau KWL i ddangos yn benodol yr hyn maen nhw’n awyddus i’w ddysgu. 

Dolen at y fideo o’r athro’n egluro

Blwyddyn 1, Ysgol Gymraeg Pencae, Caerdydd