Mae’r Siart Pegiau Hunan Asesu (Self Assessment Pegs Chart) yn helpu disgyblion i fesur yr hyn maen nhw’n ei wybod neu’n gallu ei wneud o ran sgil yn erbyn goleuadau traffig RAG (coch, ambr, gwyrdd) neu wynebau’n gwenu. Mae gan bob plentyn un peg dillad ac maen nhw’n gosod eu peg gyferbyn â’r golau traffig/wyneb gwenu maen nhw’n fwyaf cysurus ag e ar ddechrau a diwedd y dasg. Gallan nhw hefyd gofnodi’r lliw golau traffig neu wyneb gwenu fel hunan asesiad ar ôl gorffen eu gwaith. Mae’r siart Pegiau Hunan Asesu hon yn ddull gweladwy iawn o weld cynnydd yr holl ddosbarth yn ystod y wers a chaiff yr athro gyfle i ystyried dealltwriaeth y plant er mwyn eu cyfeirio at y camau nesaf yn ystod y wers.
Bl 1, Ysgol Gymraeg Pencae, Caerdydd