‘Benthyca fel Pioden’ oddi wrth gyfoedion

Defnyddir strategaeth ‘Pioden’ ym mlwyddyn 5 yn Nhongwynlais.  Bydd yr athro’n holi’r dosbarth beth sy’n mynd yn dda, a bydd y disgyblion yn gwneud awgrymiadau, yna gall y disgyblion eraill ddefnyddio syniadau eu cyfoedion yn eu gwaith. Yn yr esiampl hon bu’r wers yn cyflwyno sgiliau gwyddoniaeth a thechnoleg i wneud i farblen deithio. Roedd y disgyblion hyn wedi llwyddo drwy ddefnyddio gwellt yfed oedd yn gallu plygu i wneud llwybr ar dro, tra roedd disgyblion eraill wedi ymdrechu i greu llwybr ar dro. Gofynnodd yr athro i’r disgyblion hyn ddangos beth oedd wedi gweithio’n dda ac yna roedd y disgyblion eraill yn gallu gwella eu gwaith eu hunain. 

Dolen gyswllt i dasg newydd taith marblen

Bl 5, Ysgol Gynradd Tongwynlais, Caerdydd