Cytundeb asesiad cyfoedion

Os mai dim ond yr athro sy’n rhoi adborth, yna mae’r cydbwysedd yn anghywir a dydy’r dysgwyr ddim yn cymryd rhan weithredol yn eu dysgu eu hunain. Fodd bynnag, rydyn ni’n derbyn nad ydy hunan asesiad nac asesiad cyfoedion yn bethau y gall dysgwyr eu gwneud wrth reddf ac na fydd hyn yn digwydd dros nos. Felly, rydyn ni’n hyfforddi’r dysgwyr i asesu eu hunain ac i asesu cyfoedion drwy brosesau a strategaethau modelu e.e. y math o gwestiynau a meddwl fydd yn gallu bod o help.  Rydyn ni hefyd yn hyfforddi dysgwyr i weithio’n effeithiol mewn parau a grwpiau gan fod hyn yn rhagofyniad hanfodol ar gyfer asesiad gan gyfoedion. Fel arfer, mae angen i ddysgwyr i fod yn aseswyr effeithiol ar gyfer eu cyfoedion cyn y gallan nhw fod yn effeithiol wrth hunan asesu. Er mwyn gallu asesu eu hunain ac fel cyfoedion, rhaid i’r dysgwyr ddeall yn llawn beth ydy’r amcanion dysgu a’r meini prawf llwyddiant – caiff y meini prawf llwyddiant eu deall a’u defnyddio’n fwyaf effeithiol os bydd y dysgwyr wedi bod yn rhan o’u creu nhw, fel y nodir uchod.  Fel arall, does ganddyn nhw ddim ffrâm o gyfeirnodau i asesu yn ei erbyn, a bydd yr adborth o lefel isel ac yn arwynebol. Pan fydd hyn yn ei le, gall dysgwyr asesu eu cyfoedion ac asesu eu hunain yn rheolaidd yn erbyn y meini prawf llwyddiant drwy gydol y wers a gwneud gwelliannau i’r gwaith yn dilyn hyn. 

Ysgol Gynradd Gatholig St Philip Evans, Caerdydd