Gorsaf Ymchwilio

Roedd ardal y Cyfnod Sylfaen yn cynnwys Gorsaf Ymchwilio lle roedd disgyblion yn gallu archwilio ac arsylwi. Er enghraifft, archwiliodd y disgyblion ddeunyddiau newydd gyda’r meicrosgop digidol newydd ac arbed eu lluniau ar weinydd yr ysgol. Gallai’r disgyblion rannu eu syniadau gyda’u cyfoedion a’r athro neu’r cynorthwydd addysgu.

B1/2 Ysgol Gynradd Penllergaer, Abertawe