Gall adborth athrawon fod ar ei fwyaf llwyddiannus pan gaiff ei weithredu yn y fan a’r lle, er enghraifft o fewn gwers wyddoniaeth a thechnoleg. Ffocws y wers hon oedd bod disgyblion yn dylunio’r modd mwyaf effeithiol o gadw wyau’n ddiogel rhag torri wrth fynd â nhw i’r farchnad. Yn ystod y wers, rhoddodd yr athro adborth i’r disgyblion ar sut i wella. Er enghraifft, newidiwyd ffocws un grŵp o blant o ystyried yr arwynebedd glanio i ystyried datblygu’r pecynnu yn fwy manwl. Roedd grŵp arall wedi anghofio bod angen i’r pecyn fod yn gallu agor i ddal yr wyau. Gwrandawodd y ddau grŵp ar yr adborth gan gynhyrchu pecyn mwy effeithiol.
Dolen gyswllt i dasg newydd pacio wyau
Blwyddyn 3 Ysgol Gynradd, Edwardsville Merthyr Tudful