Gall dod o hyd i’r wybodaeth sydd ganddyn nhw ymlaen llaw, ar ddechrau’r profiad dysgu, gynorthwyo’r disgyblion i ganfod yr hyn maen nhw’n ei wybod yn barod, a hefyd alluogi’r athro i adeiladu ar yr wybodaeth flaenorol. Yn Ysgol Gynradd Tongwynlais, gwneir hyn drwy ddefnyddio Mapiau Cylch neu Fapiau Meddwl. Bydd y disyblion yn defnyddio rhain ar ddechrau’r sesiwn i gofnodi’r hyn maen nhw’n ei wybod, yna maen nhw’n mynd nôl at y map meddwl ar ddiwedd yr astudiaeth i ddangos yr hyn maen nhw wedi’i ganfod, a bydd hyn yn arwydd i’r athro o’r cynnydd. Mae athrawon yn defnyddio rhain yn ffurfiannol i sefydlu’r camau nesaf yn y dysgu. Mae’r esiampl hon yn cynrychioli Map Cylch i ddangos dysgu’r disgybl am goed ym Mlwyddyn 3.
Ysgol Gynradd Tongwynlais, Caerdydd