Yn y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Gynradd Penllergaer, mae’r ddarpariaeth barhaus a gwell yn cynnwys cyfleoedd i ymchwiliadau gwyddonol. Er enghraifft, yn y bwrdd tywod, cafwyd gweithgareddau drwy ddefnyddio rhidyll i wahanu reis a phasta oddi wrth y tywod. Yn y bwrdd dwr cafodd y plant offer piped a chael eu herio i greu diferion mawr neu fach, yna ystyried beth oedd yn digwydd pan oedden nhw’n diferu dwr ar wahanol ddeunyddiau.
Bl 1/2 Ysgol Gynradd Penllergaer, Abertawe