Bu disgyblion Blwyddyn 1 ym Mhencae yn cyflawni nifer o weithgareddau pontydd ar gyfer eu tasg asesu wedi eu ffocysu ar wyddoniaeth a thechnoleg.
Yn ystod y sesiwn cyntaf i’r dosbarth i gyd, bu’r dosbarth yn archwilio ac yn trafod lluniau o wahanol bontydd a bu hyn yn help iddyn nhw ddeall ac yn help hefyd i ddatblygu eu geirfa wyddonol. Mabwysiadodd llawer o’r disgyblion eu henwau eu hunain ar y pontydd (trawst, bwa a chonsertina). Bu un grŵp yn gweithio gyda’r cynorthwyydd addysgu yn y goedwig tu allan i’r ysgol yn chwilota am adnoddau naturiol addas ac yna defnyddio’r rhai mwyaf priodol i adeiladu pontydd. Roedd y disgyblion yn deall cynllun y fframwaith a thrwy arbrofi a phrofi fe lwyddon nhw i adeiladu pont. Cofnododd y cynorthwyydd addysgu y gwaith drwy dynnu lluniau.
Dolen i’r dasg newydd wedi ei ffocysu ar Bontydd
Blwyddyn 1, Ysgol Gymraeg Pencae, Caerdydd