Yn y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Gynradd Penllergaer, roedden nhw wedi ei chael hi’n anodd i dracio pa blant oedd wedi gwneud pa weithgaredd drwy’r bwrdd dewis o well darpariaeth. Fe wnaethon nhw gyflwyno llyfr ‘Profwch e’ ble roedd y plant yn cwblhau hunan asesiad RAG ar gyfer pob gweithgaredd oedd wedi ei rifo dros y ddwy wythnos. Roedd hyn yn galluogi athrawon i wirio fod yr holl blant wedi cael profiad o bob gweithgaredd, a hefyd roedden nhw’n cael syniad a oedd y plant yn teimlo’n hyderus ai peidio, fyddai’n arwain i drafodaeth gyda’r plentyn, os byddai angen hynny.
Diwedd Bl 1 i fewn i Bl 2, Ysgol Gynradd Penllergaer, Abertawe