Disgyblion yn gwella ar eu hymchwiliad gwyddonol

Cafodd disgyblion blwyddyn 5 a 6 eu cymell i ystyried eu dysgu a gwerthuso a newid ymchwiliad i lwmp o siwgr yn toddi.  Roedd y disgyblion wedi bwriadu amseru faint o amser gymerai’r dŵr i gyrraedd top y tŵr, ond yma mae’r disgybl yn egluro fod “gwaelod y tŵr o lympiau siwgr yn chwalu cyn i ni allu mesur yr uchder roedd y dŵr wedi teithio”, felly fe wnaethon nhw newid yr ymchwiliad i gofnodi “faint o amser gymerai hi i waelod y tŵr o siwgr lwmp doddi ac i’r tŵr chwalu.”

Dolen gyswllt i dasg siwgr Bl 5

Bl 5/6, Ysgol Gynradd Blaenycwm,  Brynmawr