Sesiwn Lawn byr i ddarparu adborth y gellir gweithredu arno

Mae sesiynau llawn byr (mini-plenaries) yn gyfle i oedi a darparu adborth, y gellir wedyn weithredu arnyn nhw’n syth bin o fewn y wers. Er enghraifft, yn ystod gwers ar wahanu cymysgeddau, fe oedodd yr athro nifer o weithiau  er mwyn: gwirio fod y disgyblion yn gwybod pa offer oedd ar gael; cyfeirio’r disgyblion i wahanu un cymysgedd  ar y tro; ac i fodelu’r defnydd o eirfa wyddonol (yn yr achos hwn ‘gronynnau’ i helpu egluro pa ddeunyddiau fyddai’n mynd drwy’r rhidyll). Roedd defnyddio cwestiynau ac anogaeth, ar gyfer unigolion, grwpiau a’r holl ddosbarth, yn cynorthwyo’r disgyblion i lwyddo wrth wahanu’r deunyddiau ac yn rhoi gwybodaeth asesu i’r athro ynglŷn â pha grwpiau allai fod angen rhagor o gymorth.

Bl 5, Ysgol Gynradd Sain Ffagan, Caerdydd