Ar ddiwedd ymchwiliad i ddistewi sain (sound muffling), bu’r disgyblion yn trafod eu canfyddiadau ac yn cofnodi eu casgliadau. Mae’r côd ‘QR’ yn cynnwys clip fideo o’r disgyblion yn profi gorchuddion clustiau (ear muffs) roedden nhw wedi eu creu. Daeth y disgyblion i’r casgliad mai’r ‘deunyddiau gorau i dawelu sain oedd gwlân cotwm’ ac fe roddwyd rhesymau’n seiliedig ar wybodaeth wyddonol pam y dylai hyn fod yn wir. Roedd yr is-deitlau’n annog y plant i gysylltu eu dysgu gyda chyd-destunau bywyd go wir ac i ystyried eu meini prawf llwyddiant a’u camau nesaf. Er enghraifft, y tro nesaf, er mwyn cael canlyniadau mwy manwl gywir, y bydden nhw’n ystyried defnyddio synwyryddion sain.
Bl 6, Ysgol Gynradd Edwardsville, Merthyr Tudful