Yng ngweithgaredd y dosbarth Meithrin hwn, roedd yr athro’n annog y disgyblion i ystyried eu dysgu ac i feddwl beth allen nhw fod yn ei wneud yn wahanol y tro nesaf, petaen nhw’n newid yr ymchwiliad. Bu’r athro’n tynnu lluniau o’r disgyblion yn ymchwilio i’r Llygod Roced (Rocket Mice) a chafodd rhain eu hanodi i ddangos i’r disgyblion beth oedd y drafodaeth rhwng y disgyblion a’r athro.
Gofynnodd yr athro i’r disgyblion ‘os gallen ni wneud yr arbrawf hwn eto, beth allen ni ei newid?’ . Roedd y disgyblion yn ateb gydag amrywiaeth o atebion, gan gynnwys defnyddio potel laeth fwy/llai neu lygoden fwy/llai gan ddangos eu bod yn dechrau deall achos ac effaith. Awgrymodd rhai disgyblion hefyd ddefnyddio roced ofod go iawn.
Dolen gyswllt i gyrraedd ‘Y2 Rocket mice’
Meithrinfa, Ysgol Gynradd Marlborough, Caerdydd