Yn Ysgol Gynradd Marlborough, mae athrawon yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i ddod â syniadau blaenorol i’r golwg, syniadau a fyddai’n sail i’w haddysgu. Yn yr enghraifft gyntaf, defnyddiwyd cylchau gan ddisgyblion Blwyddyn 4 i arddangos gwybodaeth o wahanol fathau o rymoedd. Yn yr ail enghraifft, dangosodd disgyblion Blwyddyn 4 eu dealltwriaeth drwy ludo organau mewnol o fewn amlinelliad o gorff dynol. Roedd yr athro yn gallu canfod unrhyw gamgymeriadau gwyddonol ac adeiladu dealltwriaeth y disgybl er mwyn symud ei h/addysg yn ei flaen.
Blwyddyn 4, Ysgol Gynradd Marlborough, Caerdydd