Athrawon yn cynnwys disgyblion i drafod meini prawf llwyddiant

Cyn i’r wers ar does-electro (electrodough) gychwyn, rhoddwyd cyfle i’r disgyblion ddysgu am gyfresi syml a chylchedau paralel gan ddefnyddio cyfarpar traddodiadol megis clipiau crocodeil. Ar ddechrau’r wers rhoddodd yr athro ddatganiadau ‘Galla i’ i’r disgyblion er mwyn iddyn nhw ffocysu eu dysgu ar y meini prawf llwyddiant. Aeth y meini prawf yn fwy cymhleth wrth i’r plant ddatblygu dealltwriaeth, e.e. Galla i  wneud cylched syml, i gylched gyfres, i gylched baralel. Yn olaf, cafodd y disgyblion gyfle i chwarae ac arbrofi a chymhwyso’r hyn yr oedden nhw wedi’i ddysgu i wahanol gyd-destunau e.e. Allan nhw wneud model 3D o’u henwau sy’n goleuo neu anghenfil sy’n goleuo? Yr enghraifft a roddir yma ydy cylched gyfres lle mae ‘LED’ yn goleuo pan fydd cerrynt trydanol yn mynd drwyddo.

Blwyddyn 5, Ysgol Gynradd Edwardsville, Merthyr Tudful

Dolen gyswllt i dasg newydd ‘electrodough’