Yn ystod cyflwyniadau i wersi yn Ysgol Pencae bu’r athrawon yn cynnwys y dosbarth mewn trafodaeth o’r hyn sy’n gwneud tasg neu weithgaredd yn LLWYDDIANNUS. Cofnododd athrawes Blwyddyn 1 syniadau’r disgyblion fel ‘Meini Prawf Llwyddiant’ ar isl bach ac roedd y disgyblion yn gallu meddwl amdanyn nhw yn ystod y dasg. Mae’r enghraifft hon yn dangos 3 maen prawf ar gyfer prawf teg tasg asesu llygod roced (Rocket Mice).
Rhoddwyd 3 rôl gwahanol i‘r disgyblion wrth ddylunio’u llygod roced – rheolwr meini prawf (RhMP), rheolwr adnoddau a rheolwr ‘pawb yn gweithio ar y dasg’. Roedd rhaid i’r RhMP roi tic yn erbyn pob maen prawf a gyflawnwyd gan y grŵp. Roedd hyn yn sicrhau bod y disgyblion iau yn rhan o’r broses o ystyried y meini prawf yn ystod y dasg. Cofnododd y disgyblion hŷn y Meini Prawf Llwyddiant a’u hunan-asesu yn eu llyfrau gan ddefnyddio peniau porffor.
Dolen gyswllt i’r dasg Bl 2 ‘Rocket Mice’
Ysgol Gymraeg Pencae, Caerdydd