Yn y Feithrin, roedd yr athrawes am ddarganfod a oedd y disgyblion yn gallu defnyddio ymholiad gwyddonol o awgrymu atebion i gwestiynau. Dewisodd yr athrawon weithgaredd Llygod Roced (Rocket Mice) o fas data TAPS (Asesiad Athro mewn Gwyddoniaeth Cynnar) sy’n ffocysu ar asesiad i wneud hyn. Tynnwyd lluniau o bob plentyn yn cymryd rhan yn y gweithgaredd sy’n ffocysu ar asesiad ac anodwyd nhw fel y gwelir yn yr enghraifft. Llwyddodd yr athrawes i gasglu tystiolaeth o’r hyn a ddysgwyd gan y disgyblion drwy holi, trafod ac arsylwi.
Fel y gwelir o’r anodiadau, gofynnodd yr athrawes ddosbarth i’r disgyblion amrywiaeth o gwestiynau agored a chaeedig, er enghraifft, ‘pa roced oedd yr un gorau?’ a ‘beth wnaeth iddi fynd yn bell? Gofynnodd yr athrawes i’r disgyblion egluro eu rhesymu drwy ofyn iddyn nhw ‘pam?’. Roedd yr ymatebion a gofnodwyd yn dangos yn glir i’r athrawes a oedd y disgyblion yn gallu cyflawni’r nod dysgu.
Dolen gyswllt i fideo Bl 2 ‘Rocket Mice’
Meithrin, Ysgol Gynradd Marlborough, Caerdydd