Disgyblion yn anodi lluniau

Fel rhan o asesiad ffurfiannol parhaus yn Ysgol Gynradd Marlborough, mae athrawon yn darparu ystod o gyfleoedd  ar gyfer cofnodi disgyblion, er enghraifft, anodi lluniau. Yn yr enghraifft gyntaf bu’r disgyblion yn dysgu i wneud arsylwadau gofalus drwy arsylwi newidiadau dros gyfnod o amser mewn gwahanol fathau o fwydydd. Dros gyfnod o bum niwrnod roedd bwyd yn llwydo ond sylwyd ar effeithiau gwahanol ar wahanol fwydydd. Gofynnwyd i’r disgyblion astudio’r lluniau, nodi unrhyw newidiadau a disgrifio’r rhain ar y templed a welir. Yn yr ail enghraifft, defnyddiodd y disgyblion luniau ohonyn nhw eu hunain yn gweithredu fel ‘ffyn cysgod’ i ddisgrifio sut mae hyd cysgod yn newid dros gyfnod y diwrnod.

Blwyddyn 4, Ysgol Gynradd Marlborough, Caerdydd