Defnyddiodd Ysgol Gynradd Sain Ffagan weithgaredd asesu TAPS (Asesiad Athro mewn Gwyddoniaeth Cynradd) i asesu cyflawniad dylunio tablau canlyniadau (tyrrau o giwbiau/lympiau siwgr Bl 5). Roedd yr athro wedi synnu at dablau canlyniadau’r plant a phenderfynodd ddysgu gwers ychwanegol cyn symud ymlaen. Defnyddiodd weithgaredd o ‘Science Enquiry Games’ gan Anne Goldsworthy a helpodd y plant i ymarfer dylunio tablau. Yna, dewison nhw newidynnau gwahanol ar gyfer amseru faint o amser fyddai’n cymryd i’r pentyrrau siwgr lwmp gwympo (e.e. gwahanol liw yn y ciwbiau neu’r deunyddiau).
Dolen gyswllt i Bl 5 siwgr lwmp
Blwyddyn 5, Ysgol Gynradd Sain Ffagan, Caerdydd