Y defnydd o sesiynau llawn byr

Mae mwy o siawns i ddisgyblion gyflawni eu nod dysgu wth gael y cyfle i ddysgu mewn sesiwn lawn fer (mini plenary). Ffocws y wers hon oedd cael disgyblion i ofyn cwestiynau am olau a phenderfynu ar lwybr ymchwiliad. Mabwysiadodd yr athro y defnydd o sesiynau llawn byr ar adegau perthnasol i helpu  disgyblion i symud ymlaen. Ar ddechrau’r wers dim ond nifer fechan o ddisgyblion lwyddodd i ‘greu’ swigod, fodd bynnag, roedd hi’n amlwg bod mwy o blant yn gallu creu swigen ar ôl pob sesiwn lawn fer. Dyma enghraifft o athro yn addasu cyflymder gwers i alluogi pob dysgwr i gyflawni.

Blwyddyn 5, Ysgol Gynradd Edwardsville, Merthyr Tudful