Yn Ysgol Coed y Gof dim ond ar un neu ddau sgil ymholiad gwyddonol ar y tro y mae’r disgyblion yn canolbwyntio a darperir logos cyfeillgar i blant ar gyfer pob sgil. Yn yr enghraifft gyferbyn o ymchwiliad i siocled dangosir dau logo, wyneb gyda marc cwestiwn (yn gofyn cwestiwn am yr ymchwiliad) ac “1 2 3 4” (dylunio dull gwyddonol).
Yn y darn gwaith Blwyddyn 6 hwn, mae’r disgybl wedi defnyddio grid a grëwyd gan yr athro i hunan werthuso un sgil ‘Y Dull’. Yn y grid mae’r athro wedi cynnwys 3 datganiad /maen prawf i’r disgyblion eu hystyried sy’n pa mae’r disgybl wedi gwerthuso’r gwaith fel lefel 5 (dull systematig, gan weithio’n annibynnol) a thicio’r golofn gyntaf ‘Fi’. Yn nes ymlaen mae’r athro hefyd wedi adolygu’r gwaith (fel y gwelir mewn inc coch) a chytuno mai L5 ydy’r meini prawf priodol ar gyfer y gwaith. Mae’r athro wedi marcio colofn yr ‘Athro’. Defnyddiwyd y gridiau hyn yn rheolaidd yn ystod tasgau gwyddonol.
Ysgol Gymraeg Coed Y Gof, Caerdydd
Gwaith disgybl blwyddyn 6 – ymchwiliad siocled