Gall athrawon gynorthwyo disgyblion i ddysgu drwy ddarparu amser i’r disgyblion ystyried ac asesu eu gwaith eu hunain. Yn yr enghraifft hon roedd disgyblion meithrin yn dysgu am ddeunyddiau addas ar gyfer gwneud lloches i Incy Wincy. Bu’r disgyblion yn gweithio gyda’r athro i greu meini prawf llwyddiant ar gyfer hyn. Ar ôl i’r disgyblion ddylunio’u lloches, cynorthwyodd yr athro y plant i asesu pa mor addas oedd eu lloches. Edrychodd y disgyblion yn gyntaf i weld a oedd hi’n bosibl i roi Incy yn y lloches, yna i weld a oedd y deunydd yn dal dŵr ac yn olaf i weld a oedd unrhyw dyllau. Ar ôl y prawf hwn cynorthwyodd yr athro y plant i ystyried y meini prawf llwyddiant a grëwyd yn flaenorol.
Dolen gyswllt i dasg newydd ‘Incy spider’
Meithrin, Ysgol Gynradd, Tongwynlais, Caerdydd