Dyfarniadau’n seiliedig ar ystod o weithgareddau

Gall dyfarniadau crynodol fod yn fwy dilys os ydyn nhw’n seiliedig ar ystod o wybodaeth. Mae Ysgol Gynradd Edwardsville yn defnyddio ystod o fathau o weithgareddau i ddarparu gwybodaeth y gellir ei defnyddio’n ffurfiannol neu’n grynodol.  Er enghraifft, yn ystod ail ran pwnc Blwyddyn 3 ar fwyta’n iach ymchwiliodd y disgyblion i fasgl wyau, gan ragfynegi a chasglu canlyniadau am hylif fyddai’n staenio dannedd; gwnaethon nhw fodelau o ddannedd a ‘chatterboxes’ i enwi dannedd a’u swyddogaethau; a dylunion nhw bosteri i hyrwyddo bwyta’n iach a gofalu am ddannedd. Defnyddiodd yr athrawes y wybodaeth o’r tasgau hyn ac o’i nodiadau arsylwi i gefnogi ei dyfarniadau crynodol.  

Blwyddyn 3, Ysgol Gynradd Edwardsville, Merthyr Tudful