Ymchwiliadau disgyblion yn sail i ddyfarniadau cynodol

Mae holl ddisgyblion yr ysgol yn cymryd rhan mewn o leiaf un ymchwliad neu ymholiad llawn bob hanner tymor, yn seiliedig ar bwnc Gwyddoniaeth (disgyblion CA2) neu Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd (disgyblion Cyfnod Sylfaen). Mae athrawon yn marcio a chymedroli gwaith disgyblion gan ddefnyddio disgrifwyr Lefel Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru neu Ganlyniadau Cyfnod Sylfaen ac ychwanegu camau nesaf er mwyn datblygu dysg disgyblion.  Mae pob atho dosbarth yn dod ag enghreifftiau o waith y plant i gyfarfod staff yr holl ysgol lle mae athrawon yn gweithio mewn parau i safoni a chytuno ar y lefelau a ddyfernir.

Blwyddyn 5/6, Ysgol Gynradd Garnteg, Pont-y-pŵl