Athrawon yn cymedroli mewn parau i gynorthwyo trafodaeth

Athrawon yn gweithio mewn parau i gymedroli gwaith disgyblion, er enghraifft ymchwiliad parasiwt.  Mae’r parau yn nodi nodweddion o’r gwaith sy’n dangos ei fod wedi cwrdd â lefelau Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru. Mae athrawon hefyd yn nodi’r camau nesaf i ddatblygu’r dysgu. Mae mwy nag un pâr yn edych ar bob darn o waith. Mae’r lefelau a ddyfarnwyd yn cael eu trafod a chytuno arnyn nhw a thrafodir unrhyw anghysondebau a’u datrys.

Mae proses debyg hefyd yn digwydd gyda samplau o waith Blwyddyn 6 mewn cyfarfodydd cymedroli clwstwr. Mae’r cyfarfodydd hyn yn digwydd drwy gydol y flwyddyn  fel bod amser i weithredu ar y camau nesaf.

Dolen gyswllt i fideo ble mae’r athro’n egluro mwy am eu prosesau cymedroli

Blwyddyn 5,  Ysgol Gynradd Garnteg, Pont-y-pŵl