Ymglymiad ysgol gyfan

Pan fydd athrawon yn cymryd rhan mewn trafodaethau cymedroli gyda’i gilydd, maen nhw’n ennill hyder yn eu gallu i farnu darn o waith. Mae hyn yn sicrhau mwy o gysondeb a mwy o ddealltwriaeth o fewn yr ysgol o’r hyn ydy cynnydd mewn sgiliau. Yn Ysgol Gynradd Tongwynlais mae staff Y Cyfnod Sylfaen a staff y  Cyfnodau Allweddol yn cwrdd yn ystod HMS i gymedroli gwaith gwyddoniaeth.

Mae’r portffolios o waith sy’n deillio o’r cyfarfodydd hyn yn rhoi enghreifftiau i’r staff o’r hyn ydy’r gwahanol lefelau. Gall staff ddefnyddio’r rhain yn sail i’w barn eu hunain a hefyd gellir eu defnyddio os bydd ’diffyg cytundeb’ o ran lefel arbennig o Gwricwlwm Cenedlaethol Cymru. Gall portffolios gael eu rhannu mewn sesiynau cymedroli a all helpu ddatblygu dealltwriaeth a rennir o fewn clwstwr o’r hyn ydy cynnydd mewn sgiliau.  

Ysgol Gynradd Tongwynlais, Caerdydd