Yn Ysgol Coed y Gof mabwysiadwyd dull cyson o fynd ati i ddatblygu sgiliau gwyddonol. Mae’r arweinydd pwnc wedi dyfeisio fframwaith o’r enw ‘Gwyddonwych’ (Excel-Sci) sy’n cynorthwyo datblygiad un neu ddwy sgil ar y tro. Mae gan bob plentyn logo cyfeillgar i blant e.e. fflasg gonigol ar gyfer dewis cyfarpar a bylb trydan ar gyfer rhagfynegi ac mae’r logos gweladwy hyn yn helpu disgyblion i adnabod ffocws y sgiliau. Yn ystod gweithgareddau gwyddonol mae grid meini prawf llwyddiant yn amlygu’r cynnydd o fewn pob sgil a thrwy hyn, mae athrawon a chynorthwywyr addysgu yn datblygu dealltwriaeth a rennir o gynnydd ymhob sgil. Mae’r disgyblion hefyd yn hunan-asesu eu gwaith yn erbyn y meini prawf llwyddiant.
Ysgol Gymraeg Coed Y Gof, Caerdydd