Cynorthwyir dealltwriaeth a rennir o ymholiad gwyddoniaeth lle mae pawb, yn ddisgyblion ac athrawon, yn defnyddio ysgolion cynnydd. Gludir taflenni ymholiad Gwyddoniaeth (Cynllunio, Datblygu ac Ystyried) i lyfrau gwyddoniaeth pob disgybl ac amlygir nodau a’u dyddio gan yr athro pan gân nhw eu cyflawni. Mae plant hefyd yn hunan asesu gan ddefnyddio’r taflenni.
Trosglwyddir y llyfrau bob blwyddyn gan alluogi athro dosbarth newydd i weld cyflawniad blaenorol y plant yn fanwl.
Blwyddyn 5, Ysgol Gynradd Garnteg, Pont-y-pŵl