Byrddau targed sgiliau

Rydyn ni wedi addasu ychydig ar ysgol sgiliau gwyddonol Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru er mwyn i blant ddeall y disgrifiadau. Rydyn ni wedi creu cardiau porffor o bob sgil gyda dewis o 3 brawddeg. Dyma un ffordd y mae’r disgyblion yn eu hasesu eu hunain a’u cyfoedion yn ein hysgol. Rydyn ni hefyd yn y broses o gyflwyno’r rhain ar fwrdd targed ar gyfer pob disgybl. Mae’r disgyblion yn lliwio’r targedau pan fyddan nhw’n  ymarfer y sgiliau.

Ysgol Pencae, Caerdydd