Dechrau, Datblygu, Meistroli

Datblygwyd  ‘Dechrau, Datblygu, Meistroli (BDM) i ddarparu strategaeth bositif, cyfeillgar i blant sy’n cynnig fframwaith graddedig i wella’r broses asesu ar gyfer cyfleoedd strategaeth dysgu.

Seilir BDM ar dri chymeriad sef Dechrau, Datblygu a Meistroli; cynrychiolir y tri cham olynol hyn ar ffurf delweddau cynyddol. Defnyddir y delweddau neu’r logos hyn ar gyfer cyfarwyddiadau Asesu ar gyfer Dysgu a meini prawf llwyddiant. Gall athrawon ddefnyddio’r logos hyn i wahaniaethu a darparu continwwm a dysgu sgiliau olynol (o fewn y cyfarwyddiadau) y gall disgyblion eu defnyddio fel canllawiau ar gyfer gosod targed ac hunanasesiad/asesu cymheiriad.

Mae strategaeth BDM yn gwella gallu plant i werthuso’u hunain/eu cymheiriaid gan ei fod yn darparu ieithwedd briodol iddyn nhw yn ogystal â strwythur graddedig. Gall athrawon atgyfnerthu hyn drwy fabwysiadu’r iaith yn eu marcio / eu canmoliaeth. e.e. “Da iawn, rydych chi’n datblygu’r sgil hon oherwydd… i feistroli mae angen i chi  … .”

Ysgol Gynradd Gatholig

St Philip Evans, Caerdydd