Anodi cynllunio

Yn Ysgol Gynradd Tongwynlais mae’r athrawon yn anodi’r cynllunio i gynrychioli pa mor dda mae unigolyn neu grwpiau o ddisgyblion wedi cyflawni yn erbyn y nodau dysgu.

Isod, ceir enghraifft o hyn yn y Cyfnod Sylfaen.

 

Yn y Cyfnod Sylfaen mae athrawon hefyd yn cadw taflenni ticio sy’n rhestru enwau’r plant yn erbyn y nod dysgu. Mae’r ysgol gyfan yn defnyddio’r un polisi marcio. Mae wyneb hapus yn dangos bod y lefel wedi’i chyflawni, mae un tic yn golygu bod un lefel wedi’i chyflawni a dau  yn golygu bod y plentyn wedi cyflawni’n uwch na’r lefel.

Ysgol Gynradd Tongwynlais, Caerdydd