Athrawon yn crynhoi’r hyn y gall disgyblion ei wneud

Yn Ysgol Gynradd Tongwynlais mae athrawon yn crynhoi cyflawniadau disgyblion fel y gellir eu trosglwyddo i’r athro nesaf.  Yn y Cyfnod Sylfaen ac yn Nghyfnod Allweddol 2, caiff ‘Ysgolion Sgiliau’ eu hanodi a’u trosglwyddo i’r athro nesaf. Mae athrawon yn cyd-gynllunio (e.e. M/D, Bl1.2, Bl3/4 a Bl5/6) er mwyn sicrhau sylw da i’r hyn y dylid ei addysgu ar draws cyfnod o ddwy flynedd.

Mae’r ail enghraifft yn dangos INCERTS, system dracio ysgol gyfan. Yn yr enghraifft hon gallwch weld bod disgybl Meithrin ‘yn gallu trin ac archwilio ystod o offer a chyfarpar’. Caiff INCERTS eu diweddaru yn gyson a throsglwyddir y wybodaeth hon gyda’r dosbarth. Mae hefyd yn bosibl i’r holl staff weld INCERTS pob dosbarth.

Ysgol Gynradd Tongwynlais, Caerdydd