Adroddiadau i rieni a gofalwyr

Bydd rhieni yn gallu cynnig mwy o help i‘w plant gartre os ydyn nhw’n derbyn adroddiadau llafar a/neu ysgrifenedig ar wyddoniaeth sy’n nodi’r camau nesaf ar gyfer eu plant. Yn Ysgol Gynradd Tongwynlais, cynhelir trafodaethau llafar gyda rhieni disgyblion Cyfnod Sylfaen ddwywaith y flwyddyn mewn nosweithiau rhieni. Dyma lle rhennir cynnydd a’r camau nesaf posibl gyda’r rhieni.

Yng Nghyfnod Allweddol 2 nodir y camau nesaf mewn gwyddoniaeth yn yr adroddiad ysgrifenedig. Ar draws yr holl ysgol, ar ôl derbyn adroddiad crynodol diwedd blwyddyn, mae’r rhieni yn gallu anfon ateb ysgrifenedig a hefyd mynychu noson agored i siarad gyda’r athrawon  dosbarth a thrafod ymhellach.

Ysgol Gynradd Tongwynlais, Caerdydd