Crynodebau grŵp

Asesir disgyblion pob grŵp yn gyson a chesglir gwybodaeth am eu cynnydd gydol y flwyddyn mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth. Caiff y cynnydd hwn ei fonitro’n ofalus er mwyn sicrhau bod pob grŵp o ddisgyblion yn gwneud cynnydd effeithiol. Mae’r enghraifft hon yn dangos y cynnydd a wnaed gan ddisgyblion a nodwyd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn cael prydau ysgol am ddim, yn Fwy Abl a Thalentog neu’n Derbyn Gofal. Os na welir bod disgyblion yn gwneud cynnydd ar y cyflymder priodol,  targedir ymyriad. Dyma enghraifft o Flwyddyn 3 ond mae’n rhan o ddull ysgol gyfan o fynd ati.

Ysgol Gynradd Edwardsville, Merthyr Tudful