Cyfarfodydd RAG (Coch, Ambr, Gwyrdd)

Mae aelodau staff yn cwrdd ddwywaith y tymor i drafod cynnydd disgyblion. Maen nhw’n dadansoddi data disgyblion ar system SIMS yr ysgol.  Maen nhw’n amlygu cynnydd disgyblion. Defnyddir gwyrdd i ddangos y disgyblion ar y trywydd iawn i gyflawni’r targedau a ragfynegir. Defnyddir ambr i dracio disgyblion sydd ddim yn cyflawni’n hollol  fel y disgwylir iddyn nhw wneud a defnyddir coch i nodi’r disgyblion sydd ddim yn cyflawni ar y lefel a ragfynegwyd. Cynhelir cyfweliadau gydag athrawon y disgyblion hynny sy’n tangyflawni er mwyn sefydlu pa gymorth sydd ei angen. Os oes angen, sefydlir ymyriadau i godi cyflawniad disgybl.

Blwyddyn 4, Ysgol Gynradd Garnteg, Pont-y-pŵl