Gall cymedroli fod yn rhywbeth mwy na matsio neu wirio, gall gynnig cyfle i ddysgu proffesiynol. Er enghraifft, gall trafodaethau cymedroli gynorthwyo athrawon i ddeall disgwyliadau ar gyfer gwahanol grwpiau blwyddyn, cynnydd yn sgiliau a chysyniadau gwyddonol ‘a’r hyn sy’n un da’.
Yn Ysgol Gynradd Garnteg, datblygodd cymedroli i fod yn drafodaeth barhaus rhwng ysgolion yn y clwstwr gan gynnwys yr ysgolion sy’n bwydo’r ysgol uwchradd. Drwy gyfarfod yn gynharach yn y flwyddyn, mae athrawon yn medru sylwi ar fylchau a meysydd i’w datblygu y gellir gweithredu arnyn nhw yn ystod y flwyddyn.
Mae cydweithio gyda’r ysgol uwchradd hefyd wedi gwella’r trafodaethau ar y pontio , ac athrawon cynradd yn fwy clir am yr hyn y bydd eu disgyblion yn ei wneud yn yr ysgol uwchradd ac athrawon uwchradd yn deall yr hyn sydd wedi’i gyflawni yn yr ysgolion cynradd. Mae casglu enghreifftiau sydd wedi’u hanodi a sylwadau athrawon o gymedroli clwstwr yn electronig ar Hwb yn darparu banc o enghreifftiau i’w defnyddio yn y dyfodol.
Dolen gyswllt i’r fideo gydag esboniad pellach o ddull yr ysgol o fynd ati
Ysgol Gynradd Garnteg, Pont-y-pŵl